{I'r ddylluan}
1 Truan i'r dylluan deg
2 ar ddisdial na rydd osteg
3 ni âd i'm ganu 'mhader
4 na thau tra fo siamplau r sêr
5 Ni chaf eisieu gorafun
6 gyscu na heddychu hun
7 ty o drumm yr ystlumod
8 a gaiff rhac piglaw ac ôd
9 Beunydd bychan rhaib ynof
10 i'm clustiau ceinihocau cof
11 pan gaewyf poen o gyfarch
12 fy llygaid pennaithiaid parch
13 hyn a'm deffru ni hunais
14 Cân y ddylluan ai llais
15 Ai chroch-waedd aml a'i chrech-wen
16 ai ffals gywyddoliaeth oi phenn
17 o hynny pan ddyhunwyf
18 hyd y wawr ddydd anedwydd nwyf
19 Canu bydd anedwydd nad
20 Hw ddy Hw hoew ddeheuad
21 ynni mawr myn wyr Anna
22 yn annos cwn nos a wna
23 Budrog yw ddiwyw ddwy-waedd
24 ben-fras anghyweithas waedd
25 llydan dal griafal growth
26 lygod-wraig hên lygadrowth
27 Ystig ddielwig eiliw
28 wosden y llys ysten lliw
29 vchel ei ffreg mewn deg-coed
30 och o'r cân mewn ochr coed
31 Ai gwedd wyneb-pryd dyn gwâr
32 ai sud ellylles adar
33 pob edn hyfedr diledryw
34 a'i baedd ond rhyfedd ei byw
35 ffraethach yw honn mewn bron-allt
36 Y nos nor eos yr allt
37 ni thyn y dydd crefydd craff
38 ei phen o geu-bren gobraff
39 i dai yn ffraeth adwen ffriw
40 edn Gwyn ap Nudd ydiw
41 wyll-ffladr a gân i'r lladron
42 anffawd i'r tafawd ar tôn
43 Er tarfu y ddylluan
44 o ddiwrthif mae gennif gân
45 Rhof tra fwy 'n aros rhew
46 oddaith ym-mhob prenn eiddew
dd' ap Gwilym